Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio defnyddwyr cyffuriau yn ardal Bangor i fod yn wyliadwrus os y cawn nhw gynnig tabledi sy’n cael eu galw yn ‘ecstasi pinc’, ‘Dr Death’ neu ‘Pink McDonlad’s’.

Mae’r tabledi yn cynnwys math o amffetamin o’r enw PMA, a gall y tabledi peryglus fod ag ‘M’ neu lythyren arall arnyn nhw.

Dywed ditectifs bod y cyffur yn treulio’n ara’ deg yn y corff ac felly mae defnyddwyr yn cymeryd mwy ohonyn nhw er mwyn teimlo yr effaith ynghynt.

Cafodd gwr yn ei ugeiniau o Lannau Mersi ei arestio ym Mangor neithiwr yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Glannau Mersi. Mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth.

“Rydan ni’n bryderus bod y cyffur yma yn cael ei ddosbarthu yn ardal Gwynedd,” meddai’r Arolygydd Dewi Jones. “Rydan ni’n gweithio ar y cyd efo ysbytai, gweithwyr ambiwlans, tafarndai a chlybiau er mwyn pwysleisio’r peryglon.”

Mae’r heddlu yn annog pobl i wrthod unrhyw gynnig i gymeryd y cyffur a chysylltu efo’r heddlu neu yn ddienw i Taclo’r Tacle.