Mae dathliadau’r Jiwbilî Diemwnt yn gyfle i longyfarch y Frnehines am 60 mlynedd o gefnogaeth i Gymru, medd y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Ychwanegodd bod y Jiwbilî yn achlysur hanesyddol am bod yna gan mlynedd ers yr un diwethaf.

“Dwi’n cael y teimlad fod pobl ledled Cymru, o bob cefndir a gwahanol gymunedau, yn cofleidio hyn.”

“Mae yna nifer yng Nghymru fydd am longyfarch ei Mawrhydi am ei gwasanaeth trwy gydol ei theyrnasiad,” meddai.

Fe fydd Mr Jones yn mynd i Eglwys Gadeiriol St Paul dydd Mawrth nesaf ar gyfer y gwasanaeth o ddiolchgarwch ac yn fe fydd yn cyflwyno medalau diemwnt arbennig i aelodau o’r Royal Welsh mewn digwyddiad yn Wiltshire.

Dathlu yng Nghymru

Cafodd dros 300 o geisiadau eu cyflwyno ym mhob cwr o Gymru i gau ffyrdd ar gyfer cynnal partïon stryd yn ôl llywodraeth Cymru.

Bydd 200 coelcerth yn cael eu cynnau i nodi’r Jiwbilî a bydd naw cwch o Gymru yn cymeryd rhan yn y pasiant ar afon Tafwys yfory.

Y Frenhines yn y ‘Derby’

Mae’r Frenhines wedi cychwyn y pedwar niwrnod o ddathlu trwy fynd i’r ras geffylau y ‘Derby’ yn Epsom.

Yfory, cynhelir y pasiant ar afon Tafwys yn Llundain ac fe fydd yna gyngerdd o flaen Palas Buckingham nos Lun.

Daw’r penwythnos i ben dydd Mawrth efo’r gwasanaeth cyn i’r teulu brenhinol orymdeithio mewn coestus yn ôl i Balas Buckingham.

‘Dyw hi ddim yn argoeli yn dda o safbwynt y tywydd ar gyfer y penwythnos. Disgwylir glaw trwm adeg y pasiant ac mae cawodydd yn debygol o darfu ar lawer o’r dathliadau swyddogol a’r partïon stryd, yn enwedig yn Ne Lloegr. Mae Gogledd Lloegr a’r Alban yn debygol o osgoi’r tywydd gwael.