Lladdwyd merch 16 oed wedi damwain rhwng ei moped a char ar yr A487 rhwng Tŷ Ddewi a Mathri yn hwyr neithiwr.

Cafodd ei hanafu’n ddifrifol wedi i’r moped yr oedd yn teithio arno fod mewn gwrthdrawiad efo car BMW du am chwarter wedi deg nos Wener. Bu farw yn y fan a’r lle yn fuan wedi’r gwrthdrawiad.

Roedd y ferch yn byw yn lleol ond dyw hi ddim wedi cael ei henwi hyd yma.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i dystion gysylltu efo nhw trwy ffonio 101.