John Coffey
Mae pum aelod o deulu o dde Cymru oedd wedi osgoi talu £500,000 mewn trethi, wrth hawlio £100,000 mewn budd-daliadau drwy dwyll, wedi eu dedfrydu heddiw.

Roedd y gŵr a’r wraig John a Brigid Coffey, a’u plant Michael, Mary a Helen, yn ennill miliynau drwy eu busnesau ail-osod a pharatoi ffyrdd.

Wrth i John a Michael Coffey fynd ati i wyngalchu arian er mwyn osgoi talu trethi roedd aelodau benywaidd y teulu yn hawlio miloedd mewn budd-daliadau.

Roedd y teulu yn berchen eiddo gwerthfawr a nifer o geir costus.

Cyfaddefodd John Coffey, 49, i 20 o droseddau yn ymwneud ag osgoi talu trethi a thwyll rhwng 2001 a 2008.

Clywodd y llys bod y teulu, oedd yn byw yn ne Cymru a Swydd Gaerloyw, yn ymdrin ag arian parod yn bennaf.

Roedd John a Michael Coffey yn datgan cyflog o £250 yn unig rhyngddyn nhw.

Yn ystod cyfweliad â’r heddlu honnodd John Coffey bod eu harian yn dod o osod ffyrdd, ceffylau a “deliau fan hyn a fan draw”.

Carcharwyd John Coffey, oedd wedi osgoi talu £450,000 mewn trethi, i ddwy flynedd a naw mis. Cafodd wybod y bydd rhaid iddo dalu’r arian yn ôl o fewn 28 diwrnod.

Dedfrydwyd Michael Coffey, oedd wedi osgoi talu £50,000 mewn trethi, i 12 mis yn y carchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd.


Llys y Goron Bryste
Cafodd wybod y bydd rhaid iddo ef hefyd dalu’r arian yn ôl.

“Unigolion fel chi sy’n rhoi enw drwg i’r gymuned teithwyr,” meddai’r Barnwr Ticehurst.

“Mae troseddau fel eich rhai chi yn dod ag anfri ar eich cymuned ac yn atgyfnerthu’r rhagfarn yn eich herbyn.

“Does neb yn hoffi talu trethi ond mae’r ffaith bod y rhan fwyaf yn gwneud hynny yn sicrhau bod cymdeithas yn parhau i weithio.

“Mae’r trethi yn yma yn talu am ysbytai, ysgolion, nyrsys a ffyrdd.

“Beth sy’n amlwg yn yr achos yma yw eich bod chi’n anonest. Does dim esgusodi eich hymddygiad.”

Clywodd y llys bod Brigid Coffey yn hawlio £39,789 mewn budd-daliadau, tra bod Helen Coffey yn hawlio £14,544.40, a Mary Coffey £53,893.44.

Dedfrydwyd Brigid Coffey i 12 mis yn y carchar, wedi ei oedi am 18 mis. Bydd rhaid iddi gyflawni 100 awr o waith di-dâl.

Dedfrydwyd Helen Coffey i 12 mis o garchar, wedi ei oedi am 18 mis. Bydd rhaid iddi gyflawni 200 awr o waith di-dâl.

Dedfrydwyd Mary Coffey i 12 mis o garchar, wedi ei oedi. Bydd rhaid iddi gyflawni 200 awr o waith di-dâl.