Fe fydd gweithwyr y DVLA yng Nghaerdydd a Bangor yn ymuno â streic dwy awr a fydd yn gwrthwynebu cau swyddfeydd.

Fe fydd aelodau undeb y PCS yn streicio mewn 39 o swyddfeydd y DVLA ledled Ynysoedd Prydain.

Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu cau rhai o’r swyddfeydd, gan roi 1,200 o swyddi yn y fantol.

Bydd y streic yn dechrau am 3pm heddiw ac yn parhau am ddwy awr.

Mae’r PCS yn pryderu y bydd cau’r swyddfeydd yn effeithio ar swyddi a phensiynau.

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth eu bod nhw’n siomedig bod y DVLA yn streicio tra bod trafodaethau yn parhau i fynd yn eu blaenau.

Fe fydd gweithwyr y DVLA yn Abertawe hefyd yn streicio ar ddydd Gwener, 8 Mehefin.