Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhuddo dyn 29 oed yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Nwygyfylchi ym mis Rhagfyr.

Bu farw Susan Jane Griffiths ar Ffordd Glanyrafon, Dwygyfylchi ar 9 Rhagfyr pan fu ei beic mewn gwrthdrawiad â char.

Dywed Heddlu’r Gogledd bod y dyn yn byw’n lleol a’i fod wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru cerbyd heb yswiriant, gwneud ffug ddatganiad er mwyn cael yswiriant, methu â stopio ar ôl damwain a gyrru gyda theiars diffygiol.

Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno ar 6  Mehefin.