Wilkinson - ar goll ers tair wythnos
Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth ynglyn â gwr 39 mlwydd oed sydd wedi bod ar goll o’I gartref yn y brifddinas ers diwedd Ebrill.

Mae Gavin Wilkinson yn 39 mlwydd oed, ac fe gafodd ei weld am y tro diwetha’ yn ardal Danescourt, Caerdydd o gwmpas 1 o’r gloch y prynhawn ar ddydd Sul, Ebrill 29.

Ar y pryd, credir ei fod yn gwisgo jins glas, crys-T du, cot ddu a thrainers duon. Roedd yn cario bag bychan du o wneuthuriad Gola gydag ysgrifen arian arno.

Mae Gavin Wilkinson yn ddyn croenwyn o faint canolig, gyda gwallt golau sy’n teneuo, ac mae ganddo nifer o gysylltiadau yn ardal Sblot a Grangetown. Mae e hefyd yn ymweld â Phenarth a’r Gwyr yn aml.

Mae’r heddlu yn bryderus yn ei gylch, ac maen nhw’n apelio ar i unrhywun sy’n gwybod unrhyw beth o’i hynt a’i helynt i gysylltu â nhw ar frys.