Mae disgwyl i’r perchennog sŵ a chyn-gyflwynydd teledu Anna Ryder Richardson ymddangos gerbron gwrandawiad llys yn Hwlffordd heddiw.
Mae hi’n wynebu dau gyhuddiad dan ddeddf iechyd a diogelwch 1974 ar ôl i gangen o goeden gwympo ar ben bachgen a’i fam a oedd ar ymweliad â’r sŵ yn Awst 2010.
Plediodd Anna Ryder Richardson a’i gŵr Colin MacDougall yn ddieuog i’r cyhuddiadau y mis diwethaf mewn gwrandawiad yn Hwlffordd.
Yn y gwrandawiad heddiw bydd ynadon yn ystyried p’un ai i drosglwyddo’r achos i lys y goron.