Bandiau Cymraeg
Mae aelodau’r Tebot Piws ymysg cerddorion Cymraeg sydd wedi addo mynd ar streic, a gwrthod yr hawl i Radio Cymru ddefnyddio eu cynnyrch.
Maen nhw o’r farn eu bod nhw’n “haeddu gwell na 49 ceiniog y funud” gan y PRS am gael chwarae eu cerddoriaeth ar yr orsaf.
Mae trefnwyr y streic yn annog cerddorion i arwyddo llythyr fydd yn cael ei anfon at benaethiaid BBC Cymru yn ganolog. Fe fydd yn cynnwys rhestr o’r cerddorion sydd ddim am i’w cerddoriaeth gael ei chwarae ar Radio Cymru.
Bydd y streic yn cael ei gynnal dros gyfnod o 24 awr ar 1 Mawrth eleni.
Mae’r grŵp wedi creu tudalen Facebook er mwyn hyrwyddo’r achos a galw am gefnogaeth bandiau eraill.
‘Pen llanw’
Dywedodd un o’r cerddorion sy’n bwriadu mynd ar y streic, Deian ap Rhisiart – y rapiwr MC Saizmundo – fod pethau “wedi cyrraedd pen llanw”.
“Mae yna bwysau mawr wedi bod ar PRS i’n trin ni’n decach, ond dydyn nhw heb wneud hynny,” meddai wrth Golwg360.
“Rydyn ni’n mynd yn fwy radical nawr ac am dynnu’r BBC i mewn i’r ymgyrch. Maen nhw mor ddibynnol ar ein cynnyrch ni.
“Mae 49 ceiniog y funud yn lot llai na’r hyn y mae cerddorion yn ei gael ar orsafoedd eraill fel Radio 1.”
Gobaith y rapiwr yw y bydd y streic yn gorfodi’r BBC “i roi pwysau ar y PRS”.
“Mae yna berthynas gyfforddus iawn rhwng y BBC a’r PRS,” meddai Deian ap Rhisiart.
“Ond mae’n rhaid i’r BBC ddechrau trin y bobol sy’n creu’r gerddoriaeth yn iawn. Mae angen iddyn nhw ail edrych ar bethau.”
“Y brotest yw’r ffordd orau, a’r ffordd fwyaf gweledol, o wneud pethau rŵan.”