Mae’r heddlu yn ystyried marwolaeth dynes yn y Rhyl yn amheus.

Daeth yr heddlu o hyd i’r corff toc cyn 3am bore ma ar Stryd Grange, y Rhyl.

Mae’r heddlu wedi cau y safle ac wedi cyhoeddi eu bod nhw’n ystyried y farwolaeth yn un amheus.

Mae uwch swyddog wedi ei benodi i arwain yr ymchwiliad, sy’n parhau ar hyn o bryd.

Dylai unrhyw un sydd â gwyovaeth gysylltu gyda’r heddli ar 101 neu ffonio Taclo’r Tacle yn dd-enw ar 0800 555 111.