Gareth Williams
Mae disgwyl i aelodau o’r gwasanaethau cudd ddod o dan y chwyddwydr wrth i dditectifs barhau i ymchwilio i farwolaeth yr ysbïwr o Fôn Gareth Williams.

Daeth MI6 o dan y lach wrth i’r crwner gyhoeddi ei rheithfarn ddoe. Dywedodd Dr Fiona Wilcox ei bod yn debygol bod Gareth Williams wedi ei ladd yn anghyfreithlon ond nad oedd digon o dystiolaeth i brofi hynny.

Mae Dr Wilcox hefyd wedi dweud ei bod yn sicr bod rhywun arall wedi cloi Gareth Williams yn y bag lle cafwyd hyd i’w gorff yn ei fflat yn Pimlico, Llundain.

Mae’r heddlu’n amau bod aelod o MI6 neu GCHQ yn ei fflat ar y diwrnod y bu farw ac fe fydd profion DNA yn cael eu cymryd gan 50 o’i gyd-weithwyr, yn ôl adroddiadau yn y Daily Mail.

Wrth feirniadu’r ymchwiliad i’w farwolaeth fe rybuddio Dr Wilcox ei bod yn debygol na fydd y dirgelwch am farwolaeth yr ysbïwr yn cael ei ddatrys yn foddhaol.

Mae Scotland Yard wedi dweud y byddan nhw’n edrych ar dystiolaeth newydd sydd wedi dod i’r amlwg yn y cwest.


Chwaer Gareth Williams, Cerri Subbe
‘Methiannau MI6’

Yn y cyfamser mae teulu Gareth Williams wedi beirniadu methiant MI6 i wneud ymholiadau amdano yn gynt pan fethodd â dychwelyd i’r gwaith ar ôl bod ar wyliau.

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen gan gyfreithiwr y teulu yn dilyn y cwest i’w farwolaeth, dywedodd y teulu eu bod nhw yn “hynod o siomedig” am “amharodrwydd a methiant” y gwasanaethau cudd i ryddhau gwybodaeth berthnasol i’r ymchwiliad.

Maen nhw hefyd wedi beirniadu “diffygion” yr ymchwiliad gan uned gwrthderfysgaeth Heddlu Metropolitan  SO15 i MI6 ac wedi galw ar bennaeth Scotland Yard i ystyried sut gall yr ymchwiliad barhau yn sgil hynny.

Yn y datganiad, darllenodd y cyfreithiwr Robyn Williams: “Mae colli mab a brawd ar unrhyw adeg yn drasiedi.

“Mae colli mab a brawd yn y fath amgylchiadau sydd wedi cael eu hamlinellu yn ystod y cwest wedi ychwanegu at y drasiedi.

“Mae ein galar wedi dwysau o ganlyniad i fethiant ei gyflogwyr yn MI6 i wneud unrhyw ymholiadau amdano, rhywbeth fyddai unrhyw gyflogwr wedi ei wneud.”

Mae’r teulu wedi disgrifio’r ysbïwr fel “mab a brawd arbennig iawn” a fydd “yn cael ei drysori am byth.”

Ar ôl diolch i deulu, ffrindiau a chyd-weithwyr Gareth Williams am eu cefnogaeth, fe ofynnodd y teulu am gael llonydd i alaru yn dilyn rheithfarn y crwner ddoe.