Mae Cyngor Caerdydd wedi ymddiheuro am ddweud wrth bleidleiswyr post Cymraeg am anfon y papur yn ôl erbyn dydd Sadwrn 5 Mai –pan fydd y blychau pleidleisio wedi hen gau a’r cyfrif wedi digwydd.

Dywedodd y Cyngor mai  “camgymeriad argraffu” sydd ar fai am y dyddiad anghywir ar fersiwn Gymraeg yr amlenni.

“Hoffwn ymddiheuro am unrhyw ddryswch a achoswyd,” meddai Cyngor Caerdydd.

Mae’r fersiynau Saesneg yn nodi’n gywir bod yn rhaid i’r Cyngor Sir dderbyn y papurau post cyn i’r blychau pleidleisio gau am 10 nos Iau yma, 3 Mai.

Bythefnos yn ôl penderfynodd y Blaid Lafur gael gwared ar 5,000 o daflenni etholiadol oedd yn lladd ar y Gymraeg. Roedd y taflenni’n dyfynnu dyn o’r enw David a ddywedodd ei fod yn chwilio am waith ond “diolch i Blaid Cymru dydw i ddim yn gallu gwneud cais am y rhan fwyaf o swyddi yng Nghymru oherwydd bod angen siarad Cymraeg.”

Cafodd ymgeisydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd ei feirniadu hefyd ar ôl iddo ddweud nad oedd pleidleisiau i’w hennill trwy gyhoeddi pamffledi dwyieithog.

Dywedodd y Cynghorydd Elgan Morgan, sy’n cynrychioli ward Plasnewydd, fod cynhyrchu pamffledi dwyieithog yn llai effeithiol na chynhyrchu rhai Saesneg yn unig.

Mae hi’n debygol o fod yn frwydr agos ar Gyngor Caerdydd. Y Democratiaid Rhyddfrydol sydd mewn grym ar hyn o bryd, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, ond mae’r Blaid Lafur  wedi dweud eu bod nhw’n ffyddiog y gallan nhw gipio rhai o’r 34 o seddi sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn y ddinas.