Gareth Williams
Mae’r cwest i farwolaeth yr ysbïwr o Ynys Môn, Gareth Williams, wedi ail-ddechrau yn Llundain bore ’ma.

Dywedodd un patholegydd sy’n rhoi tystiolaeth heddiw ei fod yn credu mai cael ei wenwyno neu ei fygu oedd achos tebygol marwolaeth Gareth Williams, a bod yr olion wedi diflannu wrth i’w gorff bydru.

Cafwyd hyd i gorff y swyddog MI6 mewn bag clo yn y bath yn ei fflat yn Pimlico, Llundain ar 23 Awst 2010. Mae’n bosib fod ei gorff wedi bod yno ers dros wythnos cyn ei ddarganfod.

Dywedodd y patholegydd, Dr Benjamin Swift, oedd yn gyfrifol am un o’r profion post mortem, ei fod wedi ei chael hi’n anodd cynnal profion ar gorff Gareth Williams, 31,  oherwydd y tymheredd uchel yn y bag, ar ôl i’r system wresogi gael ei droi ymlaen yn y fflat, er ei bod hi’n ganol haf.

Methodd archwiliad cynnar o’r corff, ar 25 Awst 2010, â dod i gasgliadau ynglŷn ag achos y farwolaeth.

Ond wrth gael ei holi heddiw, dywedodd Dr Swift mai gwenwyno neu fygu oedd y rhesymau “tebygol, yn hytrach na phosib” tu ôl i’w farwolaeth.

Dywedodd hefyd nad oedd olion o anafiadau ar y corff i awgrymu bod Gareth Williams wedi ceisio dod yn rhydd o’r bag, lle cafodd ei ddarganfod  yn noeth.

Ond dywedodd Dr Swift nad oedd unrhyw olion o dabledi yn ei system, a doedd dim ôl cleisio fel y byddai’n ddisgwyliedig petai wedi ei grogi.

Roedd y patholegydd o’r farn fod Gareth Williams wedi marw’n fuan wedi iddo gael ei weld am y tro olaf ar 15 Awst 2010.

Corff mewn bag

Yn ôl un arall o’r patholegwyr sydd wedi bod yn rhoi tystiolaeth heddiw, Dr Richard Sheperd, mae’n “fwy na thebygol” fod Gareth Williams yn fyw pan aeth i’r bag North Face.

Ond doedd “dim awgrym” bod corff Gareth Williams wedi cael ei wthio i’r bag, meddai, gan y byddai disgwyl olion yr ymdrech ar ei gorff, meddai Dr Sheperd.

“Dwi’n meddwl y byddai’n broses anodd iawn i’w chwblhau, cael y corff mewn i’r bag mor gymen,” meddai.

“Petai wedi bod yn fyw ac yn brwydro byddwn i wedi disgwyl gweld anafiadau,” meddai.

Byddai ceisio cael corff i mewn i’r bag yn syth wedi marwolaeth hefyd wedi bod yn anodd oherwydd “hyblygrwydd” y corff yn y cyfnod hwn, clywodd y llys.

Mae’r crwner yn y cwest, Dr Fiona Wilcox wedi dweud ei bod hi’n bosib y bydd y dyfarniad ar y cwest yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher.