Mae tua 5,000 o gartrefi yn Abertawe, Caerdydd a dwyrain Cymru heb drydan oherwydd y tywydd garw.
Mae nifer o ffyrdd hefyd wedi cael eu cau oherwydd bod coed wedi disgyn yn y gwyntoedd nerthol.
Dywedodd llefarydd ar ran Western Power fod eu staff yn delio â deg gwaith mwy o alwadau nag arfer oherwydd y tywydd. Roedd eu swyddfeydd i gyd ar agor, meddai, ac roedd eu staff yn gweithio i ddatrys y problemau cyn gynted â phosib.
Mae gyrwyr hefyd wedi eu rhybuddio i fod yn ofalus ar draffordd yr M4 oherwydd bod coed yn disgyn.