Mae’r heddlu wedi enwi’r dyn oedrannus a gafodd ei lofruddio yng nghyntedd ei gartref yng Nghaerdydd yn ystod oriau mân bore Sadwrn.

Mi gafodd Peter Lewis, oedd yn 68 oed, ei drywanu yn ei stumog, meddai Heddlu De Cymru.

Roedd Mr Lewis ag anableddau dysgu ac roedd yn byw yn Ffordd Claude, Y Rhath.

Mae ymchwiliadau’r heddlu yn parhau. Maen nhw’n chwilio am ddyn a welwyd yn rhedeg ar hyd Stryd Oakfield i gyfeiriad Ffordd Casnewydd o amgylch yr amser y bu Mr Lewis farw. Roedd y dyn yn gwisgo top hoodie lliw golau ac esgidiau ymarfer.