Owain Roberts
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio unwaith eto am wybodaeth am Owain Môn Roberts o Aberteifi sydd wedi bod ar goll ers 10 Mawrth.

Y tro diwethaf iddo gael ei weld yn sicr oedd ar fore dydd Sadwrn, 10 Mawrth yn ardal Mwnt, ond mae’r heddlu’n dweud fod dyn tebyg iddo wedi cael ei weld yn swyddfa bost Plwmp tua amser cinio y diwrnod hwnnw.

“Roedd y dyn yn sôn am fethu cyrraedd y llwybr arfordirol mewn pryd i gwrdd â ffrind,” meddai’r Arolygydd Louise Bradshaw sy’n arwain yr ymchwiliad.

“Roedd tri chwsmer arall yn y siop, un dyn a dwy ferch a oedd gyda’i gilydd mae’n debyg, ac fe gynigion nhw lifft iddo. Roedd ganddyn nhw acenion de Lloegr, o bosib swydd Rydychen.

“Mae’r ardal yn boblogaidd gydag ymwelwyr ac mae’n bosib eu bod nhw ar wyliau ar y pryd. Hoffwn i apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ac a gynigiodd lift i ddyn tuag at lwybr yr arfordir i gysylltu â’r heddlu yn syth ar 101.”.

Technegydd Sain yn Theatr Mwldan

Mae Owain Roberts yn 36 oed ac yn dechnegydd sain gyda Theatr Mwldan yn Aberteifi.

Mae ei wallt yn llwydo, yn arbennig ar yr ochrau. Mae ei ddant chwith blaen wedi torri ac mae ganddo lygaid llwydlas.