Gareth Williams
Mae ffrind i’r ysbïwr o Ynys Môn a gafodd ei ddarganfod wedi marw mewn bag clo yn ei fflat yn Llundain wedi dweud wrth y cwest i’w farwolaeth ei fod yn defnyddio enwau eraill o bryd i’w gilydd.

Ond ni ddatgelwyd yr enwau eraill, wedi i’r Crwner atal rhagor o holi ar ffrind yr ysbïwr 31 oed, Gareth Williams.

Roedd Elizabeth Guthrie yn cael ei holi gan gyfreithiwr y teulu, Anthony O’Toole, pan ofynnodd iddi a oedd Gareth Williams  yn “defnyddio enw arall?”. “Oedd,” meddai.

Datgelodd hefyd y byddai Gareth Williams yn defnyddio nifer o wahanol ffonau i gysylltu a hi.

“Ni fyddai wastad yn fy ffonio i o’r un rhif, ac fe fyddai wastad yn cario ffonau gwahanol,” meddai.

Ond yn amlach na pheidio fe fyddai’n “troi fyny a chanu’r gloch,” meddai.

Cyfeillgarwch

Yn ôl Elizabeth Guthrie, roedd ei chyfeillgarwch â Gareth Williams wedi ei selio ar eu hoffter o hanes, arlunio, cartwnau Manga Japaneaidd, teithio a dywediadau ffraeth.

Cafodd corff Gareth Williams ei ddarganfod mewn bag mawr North Face ym math ei fflat yn Pimlico, Llundain ym mis Awst 2010 – ond 20 mis yn ddiweddarach ac mae amgylchiadau ei farwolaeth yn parhau’n ddirgelwch.

Pan aeth yr heddlu i’w gartref y tro cyntaf, daethpwyd o hyd i ddillad ac esgidiau menywod gwerth £20,000, clywodd y cwest.

Dywedodd Elizabeth Guthrie heddiw ei bod hi a Gareth Williams wedi bwriadu mynd i barti gwisg ffansi cyn hir, wedi eu gwisgo fel cymeriadau Manga.

‘Gwisg ffansi’

Wrth ymateb i gwestiwn y cyfreithiwr ynglŷn â’r tebygolrwydd bod Gareth Williams yn traws-wisgo, dywedodd Elizabeth Guthrie nad oedd hi’n credu bod dim byd o “natur rywiol” yn y mater, ond eu bod nhw’n bwriadu mynd i ddawns gwisg ffansi gyda’i gilydd.

“Roedd e’n bwriadu mynd fel ninja, nid fel brenhines,” meddai.

Wrth drafod y casgliad drud o ddillad yn ei fflat, awgrymodd Elizabeth Guthrie ei fod efallai’n “cefnogi strategaeth ar gyfer rhywun arall. Yn sicr fydden nhw ddim iddo fe,” meddai.

Ychwanegodd ei bod hi, “yn fy marn bersonol, yn meddwl ei fod e’n stret.”

Roedd y ddau yn ffrindiau agos, ond cyfaddefodd Elizabeth Guthrie nad oedd hi byth wedi bod yn ei fflat.

“Er mwyn i rywun gael gwahoddiad yn ôl i’w le ei hun, byddai hynny’n rhywbeth i’w nodi, ac yn awgrymu, yn fy marn i, fod yna berthynas cryf iawn,” meddai.

“Efallai y byddai neu na fyddai wedi dweud wrtha’ i am y peth, ond byddai’n sicr wedi dweud wrth ei deulu.”

Cyfrifiadur gwaith

Roedd cwestiynau hefyd yn cael eu holi heddiw a allai’r gwasanaethau cudd fod wedi ymyrryd â chyfrifiadur gwaith Gareth Williams wedi i’w gorff gael ei ddarganfod. Cafodd yr offer electronig ei drosgwlyddo i uned gwrth-derfysgaeth Scotland Yard ar 27 Awst, pedwar diwrnod wedi ei farwolaeth.

Dywedodd cyfreithiwr y teulu, Anthony O’Toole, nad oedd “unrhyw ddatganiad gan unrhyw un yn GCHQ i ddweud nad oedd ymyrraeth wedi bod gyda’r offer” yn y cyfamser.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Michael Broster, oedd yn gyfrifol am ymchwiliad yr uned gwrth-derfysgaeth, fod safle gwaith Gareth Williams wedi cael ei “selio a’i dapio.”

Dywedodd nad oedd yn gallu dweud “yn hollol bendant na fu ymyrraeth. Ond does gen i ddim rheswm i gredu bod hynny wedi digwydd,” meddai.

Dywedodd hefyd nad oedd wedi llwyddo i ddarganfod unrhyw gysylltiad rhwng gwaith Gareth Williams a’i farwolaeth – neu dim “dwi wedi bod yn ymwybodol ohono,” meddai.

Wrth i’r cyfreithiwr ei holi sut bod y wasg wedi cael clywed bod cyfrifiadur cartref Gareth Williams yn dangos ei fod wedi ymweld â gwefannau ynglŷn â chlawstroffobia – oedd yn son am fwynhad o amgylchiadau caeedig – a chaethiwed a sadomasocistiaeth, dywedodd Michael Broster nad oedd ganddo syniad sut fod hyn wedi digwydd.