Sion Jenkins a Billie-Jo Jenkins
Mae papur newydd y Mirror heddiw’n gwneud honiadau newydd yn achos Billie-Jo Jenkins, y ferch ysgol a laddwyd yn Hastings yn 1997.

Treuliodd tad maeth Billie-Jo, Sion Jenkins, sydd â chysylltiadau ag Aberystwyth, chwe blynedd yn y carchar ar ol ei gael yn euog o  lofruddio’i ferch faeth.

Ar ôl dau achos apêl cafodd y dyfarniad gwreiddiol ei ddileu yn 2004 a chafodd Sion Jenkins ei ryddhau. Methodd dau achos newydd â dod i benderfyniad a dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn 2006 fod Sion Jenkins bellach yn “swyddogol ddieuog” o lofruddio ei ferch faeth.

Yn ôl ymchwiliad gan bapur y Mirror mae tebygrwydd rhwng llofruddiaeth Billie-Jo Jenkins ac ymosodiadau yn ardal yr M25 gan Antoni Imiela, sydd yn y carchar am gyfres o ymosodiadau ar ferched rhwng 1987 a 2002.

Dywed y Mirror fod Antoni Imiela yn arfer byw 20 milltir i ffwrdd o gartref teulu’r Jenkins a bod ganddo ffrindiau yn Hastings. Roedd Billie-Jo yn 13 oed pan fu farw a dywed y papur fod gan Imiela hanes o dargedu merched o’r oed yna.

Yn 2008 dywedodd Sion Jenkins mewn llyfr ei fod yn credu y gall dyn a welodd yng nghyntedd y tŷ yn fuan wedi’r llofruddiaeth fod wedi lladd Billie-Jo.

Mae Sion Jenkins a’r Mirror yn galw ar yr heddlu i ymchwilio i’r posibilrwydd bod Billie-Jo wedi cael ei llofruddio gan Imiela.