Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi bod cwmni rhannau ceir Toyoda Gosei am greu 500 o swyddi yng Ngorseinon dros y pum mlynedd nesaf.

Bu Carwyn Jones yn agor safle newydd Toyoda Gosei yng Ngorseinon yn swyddogol heddiw, a dywedodd bod y newydd yn “hwb enfawr i’r economi” ac yn “arwydd o hyder yng Nghymru”.

Mae’r safle’n cael cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru ac mae Toyoda Gosei wedi buddsoddi mwy na £10 miliwn yn y ffatri.

Dywed Llywodraeth Cymru fod y diwydiant moduro yn ganolog i economi Cymru, gyda thros 150 o gwmnïau yn cyflogi mwy na 20,000 o bobl.

“Mae’n bleser cael dathlu agoriad y safle hwn,” ychwanegodd Carwyn Jones.

“Mae’r ffaith i Toyoda Gosei ddewis lleoli’r ffatri yma yng Nghymru yn dangos bod gennym weithlu sy’n gallu cystadlu am gyfleusterau gweithgynhyrchu o safon byd-eang.

“Bydd fy llywodraeth yn parhau i wneud y cyfan a allwn i helpu Toyoda Gosei i dyfu a ffynnu.”