Ched Evans a Clayton McDonald
Mae pêl-droediwr sydd wedi ei gyhuddo o dreisio dynes oedd “yn rhy feddw i gydsynio” wedi mynnu ei bod hi “mewn rheolaeth” o’i hunan, clywodd Llys y Goron Caernarfon heddiw.

Mae  Ched Evans, 23, sy’n enedigol o Lanelwy, ac yn ymosodwr Cymru a Sheffield United, a Clayton McDonald, 23,  sy’n chwarae i Port Vale,  yn gwadu treisio’r ddynes.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yng ngwesty’r Premier Inn ger Y Rhyl fis Mai’r llynedd.

Clywodd y llys bod y ddau wedi cyfaddef cael rhyw gyda’r ddynes ar ôl i McDonald, o Sir Gaer, gwrdd â hi ar stryd yn ystod noson allan gyda’i ffrind Evans o Dde Swydd Gaerefrog.

Mae’r ddynes, oedd yn 19 ar y pryd, wedi dweud wrth yr heddlu nad yw’n cofio dim am y digwyddiad ac mae’r erlyniad yn dadlau ei bod hi’n rhy feddw i gydsynio i gael rhyw gyda’r ddau.

Dywedodd McDonald ei fod wedi cwrdd â’r ddynes wrth iddo chwilio am dacsi i fynd nôl i’r gwesty lle’r oedd yn aros.

Ar ôl iddyn nhw gyrraedd y Premier Inn roedd y ddau yn eistedd ar y gwely “pan wnaeth hi gydio ynddo’i a nes i gydio ynddi hi,” meddai McDonald ac fe ddechreuodd y ddau gael rhyw gyda’i gilydd.

Dywedodd ar ôl tua 10 munud roedd yn ymwybodol bod rhywun wrth ymyl y ffenestr.

Roedd y rheithgor wedi clywed yn gynharach bod Jack Higgins, cyfaill i’r ddau, a Ryan Roberts, brawd Evans, wedi bod yn gwylio drwy’r ffenestr.

Roedd recordiad fideo ar ffôn Jack Higgins yn dangos ei fod wedi bod yn ffilmio neu’n ceisio ffilmio’r digwyddiad.

Dywedodd McDonald ei fod wedi gweld “Ryan a’i ffrind drwy’r ffenest ac wedyn daeth Ched i mewn i’r ystafell a gofyn ‘Ga’i fod yn rhan o hyn?’” meddai.

“Nes i edrych arni hi ac mi ddywedodd hi ‘Iawn,’” meddai McDonald.

Dywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi gadael y gwely tra bod Evans yn cael rhyw gyda’r ddynes, ac ar ôl gwylio am beth amser aeth i’r ystafell ymolchi cyn penderfynu gadael.

Aeth i’r dderbynfa a gofyn i’r rheolwr ar ddyletswydd i sicrhau bod y ddynes yn cyrraedd nôl adre’n ddiogel.

Fe gwrddodd ag Evans wedyn tu allan i’r gwesty ac fe gerddodd y ddau i dŷ ei rieni.

Dywedodd McDonald bod y ddynes yn gallu cydsynio i gael rhyw gyda’r ddau ddyn a’i bod yn “mwynhau ei hun”.

Ni fyddai wedi mynd i’r dderbynfa petai newydd ei threisio, meddai.

Cafodd yr achos ei ohirio tan yfory pan mae disgwyl i McDonald ac Evans roi tystiolaeth.