Traeth Cefn Sidan
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi rhybuddio noethlymunwyr ar draeth Cefn Sidan y byddan nhw’n cael eu herlyn os y byddan nhw’n ymddwyn yn anweddus ar y traeth poblogaidd yma sy’n denu cannoedd o deuluoedd bob blwyddyn.

Yn ôl y cyngor mae rhai pobl noethlymun wedi bod yn ymddwyn yn anweddus yn gyhoeddus ac mae llawer wedi cwyno.

Mae arwyddion ar y traeth yn dweud nad oes caniatad i fod yn noeth yno ac mae taflenni yn dweud yr un peth wedi cael eu dosbarthu ym Mharc Gwledig Pen-bre gerllaw.

Mae’r rhybydd beth bynnag wedi gwylltio naturiaethwyr sydd yn mwynhau bod yn noethlymun yn yr awyr agored gan nad yw hynny ynddo’i hun yn anghyfreithlon.

“Ffordd o fyw yw bod yn naturiaethwr,” meddai Sam Hawcroft, golygydd y cylchgrawn H&E Naturist. “Mae rhybydd sy’n dweud ei fod yn anghyfreithlon i fod yn noeth yn groes i’r gyfraith. Rhaid i chi ymddwyn mewn modd peryglus neu anweddus i gael eich erlyn.”

Mae’r Cyngor yn credu bod gwybodaeth anghywir wedi cael ei gyhoeddi ar wefannau ac mewn cylchgronnau yn dweud bod Cefn Sidan yn draeth i noethlymunwyr.

“Dim ond pan mae ymddygiad yn achosi pryder a gofid trwy fod yn anweddus neu beryglus y byddwn ni’n gweithredu,” meddai llefarydd.

Mae Parc Gwledig Pen-bre a thraeth Cefn Sidan yn denu dros filiwn o ymwelwyr yn flynyddol.