Fe fydd rhaid i yrwyr ddisgwyl yn hirach nes bod tollau pontydd Hafren yn cael eu cwtogi, datgelwyd heddiw.

Mae cwmni Severn River Crossings wedi cael gwybod y byddwn nhw’n cael cynnal y pontydd am tua phum mis yn hirach nag y dyddiad gwreiddiol.

Unwaith y mae’r pontydd yn nwylo’r wladwriaeth, yn 2017, mae disgwyl i’r tollau gael eu cwtogi’n sylweddol, o £6 i tua £1.50.

Ond mae Severn River Crossings wedi cael gwybod eu bod nhw’n cael cadw gafael ar y pontydd nes eu bod nhw wedi casglu £1.02bn, cynnydd o £33m ar y ffigwr gwreiddiol.

Dywedodd Asiantaeth y Priffyrdd y bydd union ddyddiau diwedd cytundeb y cwmni yn dibynnu ar faint o draffig sy’n croesi dros y bont.

Dywedodd yr asiantaeth bod y cytundeb newydd yn adlewyrchu newidiadau i’r system dreth a hefyd cost ychwanegu dyfeisiau talu â cherdyn ar y bont.

Roedden nhw wedi ystyried codi pris tollau, neu hyd yn oed dalu’r gwahaniaeth, ond penderfynodd yr asiantaeth mae ymestyn y cytundeb fyddai orau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu eu bod nhw eisiau cymryd y pontydd o ddwylo Llywodraeth San Steffan unwaith y daw’r cytundeb i ben.

Agorodd y bont wreiddiol yn 1966, a’r ail yn 1996.