Phil Lewis
Mae’r heddlu yng Nghaerdydd  yn apelio am wybodaeth am ddyn yn dilyn ymosodiad difrifol  yn Splott ddydd Mawrth diwethaf, 10 Ebrill.

Mae Phil Lewis yn 31 oed ac yn chwe throedfedd o daldra. Mae ganddo wallt a llygaid brown.

Mae ganddo gysylltiadau hefyd â Sir Benfro, yn benodol Hwlffordd a Saundersfoot.

Mae’r heddlu’n annog unrhyw un a welodd Phil Lewis i gysylltu â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.