David Jones AS
Mae uned mân-anafiadau ysbyty Bae Colwyn yn mynd i gael ei ail-agor ddiwedd yr wythnos, ar ôl bod ar gau am dros dri mis.

Bydd yr uned mân anafiadau yn cael ei ail-agor i gleifion ar 16 Ebrill, ar ôl cau ym mis Ionawr 2012.

Dywedodd prif weithredwr dros-dro Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y byddai’r uned yn dychwelyd i’r “un oriau agor ag oedd cyn y cau,” sef 9am-5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.

‘Canolbwyntio adnoddau’

Roedd uned mân-anafiadau Bae Colwyn ymhlith cyfres o wardiau mewn ysbytai cymunedol a gaewyd gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ym mis Ionawr 2012, fel  rhan o ymgyrch y Bwrdd Iechyd i ganolbwyntio adnoddau er mwyn arbed arian a thargedu’r galw yn well.

Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod y “cynnydd disgwyliedig mewn galw dros y gaeaf, law yn llaw â materion fel staffio, staff yn sâl, a’r sefyllfa ariannol yn golygu bod yn rhaid gweithredu er mwyn sefydlogi’r gwasanaethau.”

Ond heddiw, dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, David Jones, ei fod yn croesawu’r newyddion ond yn siomedig iawn fod yr uned ym Mae Colwyn wedi bod ar gau cyhyd.

“Bae Colwyn yw’r ail dref fwyaf yng Ngogledd Cymru, ac mae gwir angen am y cyfleusterau hyn; pan fues i yn ymweld â’r ysbyty ym mis Ionawr roedd hi’n brysur eithriadol,” meddai.

‘Bwrdd Iechyd wedi torri addewid’

Dywedodd yr Aelod Seneddol ei fod hefyd yn siomedig fod y Bwrdd Iechyd wedi torri eu gair ynglŷn â dyddiad ail-agor yr uned.

“Dwi’n siomedig nid yn unig bod y Bwrdd Iechyd wedi cau’r uned mân-anafiadau yn y lle cynaf, ond wedi methu a’i ail-agor erbyn y dyddiad yr oedden nhw wedi ei addo, sef 1 Ebrill.”

Roedd y Bwrdd Iechyd wedi rhybuddio yn ôl ym mis Rhagfyr y llynedd, pan gyhoeddwyd y syniad o gau’r wardiau, y byddai’r trefniant yn ei le am dri mis. Ond bryd hynny roedden nhw’n dweud y byddai’r cyfan wedi ail-agor erbyn diwedd Mawrth.

“Dwi’n gobeithio’n fawr na fydd rhagor o gau wardiau dros y gaeaf gan y Bwrdd Iechyd,” meddai David Jones.