Mae tîm achub mynydd wedi tywys cerddwyr i le saff ar ôl iddyn nhw weiddi am gymorth yn ystod y nos.

Roedd gwersyllwyr gerllaw wedi clywed y cerddwyr yn gweiddi ger Llyn Gwynant wrth droed yr Wyddfa.

Galwyd Tîm Achub Mynydd Llanberis am 2.30am y bore ma.

Roedd y cerddwyr, oedd yn eu 40au, wedi bod yn cerdded ar hyd Llwybr Watkin i gyfeiriad eu car ond roedd hi wedi nosi cyn iddyn nhw gyrraedd.