Mae ysgolion Cymru bellach yn “ffatrïoedd arholiadau”, rhybuddiodd undeb athrawon ATL Cymru heddiw.

Dywed yr undeb bod “plant Cymru yn cael eu harholi’n amlach na bron i unrhyw blant eraill yn y byd” a bod addysg y wlad yn canolbwyntio’n ormodol ar arholiadau.

“Mae’r pwysau ar ddisgyblion ac athrawon i ‘lwyddo’ mewn arholiadau yn creu straen a phoen meddwl i fyfyrwyr a staff fel ei gilydd,” meddai Philip Dixon, cyfarwyddwr ATL Cymru.

“Mae yna bryder y bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno profion llythrennedd a rhifedd yn cynyddu’r pwysau ymhellach.

“Yn ogystal â rhoi ein plant dan bwysau emosiynol mae’r cynnydd mewn arholiadau yn rhoi addysg go iawn dan warchae.

“Mae’n bwysig nad ydyn ni’n drysu arholiadau â dysgu. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw’r system fandio newydd yn troi’n gyfres o gylchoedd y mae’n rhaid i blant neidio drwyddynt.

“Mae addysg yn bwysig drwy gydol bywyd y disgybl, nid yn unig yn y cyfnod cyn yr arholiad nesaf.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod arholiadau yn hollbwysig er mwyn asesu disgyblion.

“Nid yw’r plant yn cael eu harholi er mwyn arholi, ond yn hytrach fel bod athrawon yn gallu adnabod y plant sydd angen eu herio a’r rheini sydd angen rhagor o gefnogaeth,” meddai.