Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £1.3m I gefnogi’r prosiect “The Pub is the Hub” yn cynorthwyo tafarndai gwledig i arallgyfeirio a chynnig gwasanaethau i’r gymuned ar wahân i werthu diodydd a bwyd. Bydd yn cael ei gyflwyno mewn wyth sir wledig: Pen-y-bont, Bro Morgannwg, Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
“Mae tafarndai, fel llawer o fusnesau bach gwledig eraill, yn gallu’i chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, yn enwedig os mai gwasanaethau tafarn yn unig y maen nhw’n eu darparu,” meddai Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaeth, yn y Royal Oak ym Metws-y-Coed ddoe.
“Rwy’n siwr y gwnaiff yr hyfforddiant, y cyngor a’r arweiniad sy’n cael eu cynnig i dafarndai a’u cymunedau trwy’r prosiect hwn eu hysbrydoli i greu ffynonellau incwm newydd fydd yn eu cynnal at y dyfodol.
Bydd y tafarndai yn eu tro yn dod â budd i’w cymunedau trwy ddarparu gwasanaethau sylfaenol hanfodol.”
Effaith domino
Dywedodd Prif Weithredwr y cynllun, John Longden, fod tafarndai gwledig yn chwarae rôl bwysig o fewn y gymuned leol.
“Wrth i un busnes gau mewn cymuned wledig, mae’n cael effaith andwyol ar lawer o fusnesau eraill gan arwain, fel dominos, at gwymp gwasanaethau lleol eraill.
“Mewn llawer i ardal wledig, y dafarn wledig yw’r unig fusnes o werth cymdeithasol sy’n dal i fod.
“Nid achub tafarndai yw prif waith Pub is the Hub, ond yn hytrach eu cefnogi a’u hannog i arallgyfeirio ac i gynnal gwasanaethau lleol yn y byd cyfnewidiol sydd ohoni.”