Leanne Wood
Ar drothwy ei hanerchiad mawr cyntaf y prynhawn yma mae Leanne Wood wedi dweud  ei bod hi eisiau i’r Blaid ganolbwyntio “ar y cwestiwn o gynaladwyedd – mae ganddon ni gyfle fan hyn i gael chwyldro diwydiannol gwyrdd”.

Wrth i’r ffyddloniaid gyrraedd Ffos Las ar gyfer y gynhadledd flynyddol, mae olynydd Ieuan Wyn Jones yn creu hanes trwy fod y fenyw gyntaf yn swydd yr Arwain i annerch y Blaid.

“Bydden i ddim yn ddynol petawn i ddim ychydig bach yn nerfus,” meddai. “Ond fe fydda i ymhlith ffrindiau, felly dwi’n gobeithio y bydd y penwythnos yn rhywbeth i rhan fwyaf aelodau’r Blaid edrych ymlaen ato.”

Mae hi hefyd yn dweud fod y croeso o bob cornel o’r Blaid wedi bod yn un cynnes iawn ers iddi gael ei hethol yn arweinydd gyda mwyafrif o bron i 2,000 o bleidleisiau.

“Dw i wedi cael ymateb rhyfeddol yr wythnos hon gan bawb, ac mae hyd yn oed y rheiny na fu’n fy nghefnogi i wrth ethol arweinydd wedi bod yn ffantastig wrth roi eu cefnogaeth gant y cant a sefyll tu ôl i fi fel arweinydd.”

Cysgod etholiadau cyngor sir

Mae’r gynhadledd heddiw yn gyfle i roi dechrau swyddogol i ymgyrch Plaid Cymru yn etholiadau’r cynghorau sir, ac fe fydd hynny’n sicr ar yr agenda gyda’r arweinydd newydd.

“Mae ganddon ni chwech wythnos nawr tan yr etholiadau lleol, a mynydd mawr i’w ddringo, felly dw i’n gobeithio y bydd hyn yn gyfle i aelodau gael eu hysgogi i fynd allan a gwneud y gwaith sydd ei angen.

“Mae ganddon ni lawer o waith caled i’w wneud dros y chwech wythnos nesaf,” meddai.

Ond mae’n mynnu y bydd y gwaith caled yn dechrau gyda’r weledigaeth fydd yn cael ei chyflwyno yn y gynhadledd yn ystod y ddeuddydd nesaf.