Andrew RT Davies
Bydd arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn estyn gwahoddiad i aelodau mwy ceidwadol Plaid Cymru ddilyn Guto Bebb i rengoedd ei blaid.

Daw ei alwad yn rali undydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llanelwy ddydd Sul, yn sgil ethol y Sosialwraig Leanne Wood yn arweinydd Plaid Cymru wythnos yn ôl.

Mae’r ffermwr yn credu bod modd denu amaethwyr cenedlaetholgar Gwynedd, Môn a Cheredigion.

“Am y tro cyntaf mae’n rhaid i aelodau Plaid Cymru edrych a gofyn: ‘Pwy sy’n cynrychioli’r dyheadau sydd gen i?’

“Ac rydw i’n credu y bydd llawer o bobol sydd ar i’r dde o’r canol [yn wleidyddol] o fewn Plaid Cymru yn dweud: ‘Mae fy nyheadau yn cael eu cynrychioli gan Geidwadwyr Cymru’.

“Ni yw’r blaid sy’n sicrhau fod pobol yn teimlo fod ganddyn nhw lais yn eu cymunedau, yn cwrdd â’u gofynion a gadael iddyn nhw wybod ein bod ni’n gweithio i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i Gymru.

“Dyma wlad hyfryd i fyw ynddi, mae gan y bobol ddyheadau a galluoedd anferthol. Mae’n rhaid i ni ryddhau’r potensial yna, a sicrhau fod Cymru ar frig y tablau addysg ac economaidd, yn hytrach nag ar y gwaelod, sef y sefyllfa anffodus sydd ohoni.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 22 Mawrth