Dywed penaethiaid bwrdd iechyd sydd â dyledion o £200,000 o ganlyniad i driniaeth sydd wedi cael ei roi i bobl o wledydd tramor, eu bod wedi gwneud pob ymdrech i gael yr arian yn ôl.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro â £200,000 yn ddyledus iddyn nhw ar ôl i gleifion oedd ddim â hawl i gael gofal am ddim gan y GIG ddefnyddio eu gwasanaethau.

Mae £101,822 yn parhau yn ddyledus, gyda £99, 612 wedi ei ddileu.

‘Cymhleth’

Dywedodd y cyfarwyddwr cyllid Alun Lloyd bod y system o ddarparu gofal i ddinasyddion sydd ddim yn dod o wledydd Prydain yn “gymhleth iawn”.

Fe bwysleisiodd bod gan y bwrdd iechyd ddyletswydd i ddarparu gofal i bawb oedd angen triniaeth brys ac nad oedd yn “bosib bob amser” i asesu eu hawl i gael gofal am ddim neu eu gallu i dalu.

“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gwneud pob ymdrech i geisio cael yr arian yn ôl gan gleifion oedd ddim â hawl i gael gofal am ddim.”

Ychwanegodd bod y bwrdd yn adolygu’n gyson y ffordd maen nhw’n delio â’r mater hwn gan sicrhau eu bod  yn gwneud y defnydd gorau o’u hadnoddau.

Daeth y ffigyrau i law Ceidwadwyr Cymru ar ôl cais Rhyddid Gwybodaeth.

Mae rhai triniaethau, fel achosion brys neu ofal seiciatrig gorfodol yn parhau’n ddigost i bawb yng Nghymru waeth o ba wlad maen nhw wedi dod neu am ba hyd maen nhw wedi byw yn y wlad.

Ond mae’n rhaid i bobl sydd ddim yn byw o fewn yr Undeb Ewropeaidd dalu am driniaethau eraill sydd ddim yn rhai brys.

Yr ail fwrdd iechyd gyda’r dyledion mwyaf oedd Abertawe Bro Morgannwg sydd â £133,327 yn ddyledus iddyn nhw.