Mae protest i gefnogi gweithwyr ffatri Remploy yn y dref wedi cael ei chynnal yn Wrecsam heddiw.

Mi wnaeth tua 100 o weithwyr a’u cefnogwyr orymdeithio drwy’r dref.

Mae 42 o bobl yn cael eu cyflogi gan ffatri Remploy yn Wrecsam sy’n un o saith ffatri Remploy yng Nghymru sydd o dan fygythiad. Y lleill yw Aberdâr, Abertyleri, Pen-y-bont ar Ogwr, Croespenmaen, Merthyr Tudful ac Abertawe.

Bydd y safleoedd yn Y Porth yn y Rhondda a Chastell-nedd yn parhau ar agor.

Mae’r Aelod Seneddol lleol, Ian Lucas, wedi dweud ei fod yn benderfynol o frwydro i’r eithaf er mwyn cadw’r ffatri ar agor.

“Rydym yn fodlon cydweithio ag unrhyw un er mwyn cadw’r lle ar agor,” meddai.

Mae’r Gweinidog dros Bobl Anabl Llywodraeth San Steffan, Maria Miller, wedi dweud ei bod yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i weld a fyddai modd cadw unrhyw un o’r saith ffatri ar agor. Ond, mae hi hefyd wedi diystyru’r posibilrwydd o roi cymhorthdal pellach i’r ffatrïoedd.