Paul Flynn AS eisiau tynnu sylw at y peryglon
Bu farw bachgen bach o Gasnewydd ar ôl iddo gael ei ddal ynghlwm mewn cortyn llen ffenest, clywodd cwest heddiw.

Cafodd Joshua Wakeman, oedd yn 22 mis oed, ei ddarganfod gan ei fam, Tracey Ford, yn eu cartref yn Jackson Place, Maendy ar 24 Ionawr. Roedd hi newydd roi ei mab yn y gwely ac aeth nôl i weld a oedd e wedi mynd i gysgu.

Cafodd  rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol ei gofnodi gan y crwner ar ôl clywed y dystiolaeth.

Clywodd y cwest fod Joshua’n hoffi sefyll wrth y ffenest a chodi llaw ar bobl oedd yn cerdded heibio.

Roedd  Tracey Ford wedi cael gormod o ysgytwad i fod yn bresennol yn y cwest. Ers y digwyddiad mae hi a’i phartner Tim Llewellin, 32, wedi bod yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o beryglon cortyn llenni.

Clywodd y cwest bod Joshua yn un o dri phlentyn sydd wedi marw yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i chwarae gyda chortyn llenni ym mis Ionawr yn unig. Yn ôl adroddiadau mae 11 o blant wedi marw yn yr un modd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ar ddydd Mawrth cyflwynodd Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd Paul Flynn gynnig boreol yn Nhŷ’r Cyffredin yn annog y Llywodraeth i hysbysu’r cyhoedd ynghylch peryglon cortyn llenni.

Wrth grynhoi’r cwest, dywedodd crwner Gwent David Bowen: “Ni fyddai Joshua wedi ystyried fod y cortyn yn beryglus. Roedd yn rhy ifanc ac yn rhy wan i allu rhyddhau ei hun.

“Y rheithfarn yn yr achos trasig hwn, felly, yw marwolaeth ddamweiniol”.