Leanne Wood
Leanne Wood yw arweinydd newydd Plaid Cymru.

Elin Jones ddaeth yn ail a Dafydd Elis Thomas yn drydydd. Roedd pedwar ymgeisydd yn y ras ond fe dynnodd Simon Thomas ei enw yn ôl ym mis Chwefror gan rhoi ei gefnogaeth i Elin Jones.

Yng Nghaerdydd y cyhoeddwyd y canlyniad prynhawn ma.

Aelodau’r blaid oedd yn penderfynu ar yr enillydd gyda phob aelod yn rhestru eu dewis cyntaf, a’u hail a’u trydydd dewis trwy’r system bleidlais amgen drosglwyddadwy. Fe welwyd cynnydd o dros ugain y cant yn nifer yr aelodau yn y misoedd diwethaf. Mae’r arweinydd newydd yn olynu Ieuan Wyn Jones a oedd wrth y llyw am ddeuddeg mlynedd.

Merch o’r Cymoedd yw Leanne Wood. Mae wedi bod yn Aelod Cynulliad ar gyfer Canol De Cymru ers 2003, mae’n dysgu Cymraeg ac yn cyfri ei hun yn sosialydd. Hi yw llefarydd Plaid Cymru dros Dai ac Adfywio. Fe gyflwynodd gynllun economaidd gwyrdd oedd yn cynnig syniadau am sut i greu swyddi amgylcheddol yng Nghymru.

Yn ystod yr ymgyrch fe lwyddodd i ddenu cefnogaeth gan Gymdeithas yr Iaith ac aelodau ifanc y blaid gyda nifer yn teimlo mai hi oedd y person iawn i ddenu cefnogwyr newydd o’r ardaloedd diwydiannol. Fe ddywedodd rhai o enwau mawr y blaid megis Adam Price a chyn-lywydd y blaid Dafydd Iwan eu bod nhw yn ei chefnogi hefyd.

Fe fydd yr arweinydd newydd yn anerch yr aelodau yng Nghynhadledd Wanwyn y blaid yn Ffôs Las penwythnos nesaf.

‘Ymgyrch dros weledigaeth’

Dywedodd Leanne Wood: “Nid ymgyrch dros unigolion oedd hon. Ymgyrch dros weledigaeth – rhaglen, set o wleidyddiaeth gysylltiedig. Ein tasg nawr yw adeiladu ar waith y rhai ddaeth o’n blaenau ni. Efallai ein bod ni’n fach, fel plaid ac fel gwlad, ond gallwn gyflawni pethau mawr os safwn gyda’n gilydd ac os safwn dros ein hegwyddorion.

“Mae’r etholiad ar ben. Felly nawr mae’r gwaith go iawn yn dechrau. Efallai nad fi yw Arweinydd yr Wrthblaid Swyddogol, ond rwy’n bwriadu arwain y weledigaeth swyddogol. Y weledigaeth bod Cymru arall yn bosibl. Dim ond gan Blaid Cymru y gall y weledigaeth gadarnhaol, uchelgeisiol yma ddod.

“Felly dyma fy neges i bobl Cymru: ni yw eich plaid chi. Plaid y bobl, plaid a’i gwreiddiau yng Nghymru, ar gyfer Cymru. Ymunwch â ni. Helpwch ni i ailadeiladu eich cymuned. Helpwch ni i ailadeiladu’r economi. Gyda’n gilydd gallwn adeiladu Cymru newydd deg, Cymru newydd fydd yn ffynnu, a Chymru newydd rydd.”