Mae corff gafodd ei ddarganfod ar draeth yn Abertawe fore Sul wedi’i adnabod yn ffurfiol fel dyn 26 oed.

Cafwyd hyd i gorff y dyn ar draeth ger Ffordd y Mwmbwls, Abertawe toc wedi 9am bore ddoe.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru nad yw ei farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus ond nad oes ganddyn nhw esboniad am  farwolaeth y dyn ar hyn o bryd.

Mae’r heddlu’n disgwyl am ganlyniadau’r post mortem ac mae’r Crwner wedi cael ei hysbysu.