Cynghorydd Chris Hughes
Mae’r cynghorydd a drechodd Dafydd Iwan yn etholiadau’r Cyngor yn 2008, tra’n sefyll dros Llais Gwynedd, wedi datgan ei fod yn ymuno â Phlaid Cymru heddiw.

Mae Chris Hughes, sy’n cynrychioli ward Bontnewydd ger Caernarfon ar hyn o bryd, wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll dros Blaid Cymru yn etholiadau mis Mai, a bydd Dafydd Iwan yn rhan o’i dîm ymgyrchu.

Wrth esbonio’r newid ochrau heddiw, dywedodd Chris Hughes ei fod ef a’i deulu “wastad wedi bod yn gefnogwyr brwd i’r Blaid yn genedlaethol.”

‘Gwneud safiad’

Ond cyfaddefodd fod “amgylchiadau penodol yn yr etholiad diwethaf – sef y sefyllfa o ran ad-drefnu ysgolion cynradd – lle roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig i wneud safiad.

“Ond mae’r amgylchiadau bellach wedi newid,” meddai.

Cafodd llywydd Plaid Cymru ar y pryd, Dafydd Iwan, ei drechu o 59 pleidlais gan Chris Hughes yn etholiad 2008.

Fe gipiod y Pleidiwr 236 o bleidleisiau, ond fe enillod Chris Hughes gyda 295 o bleidleisiau wrth sefyll dros blaid a sefydlwyd prin flwyddyn ynghynt er mwyn gwrthwynebu cynlluniau ad-drefnu dadleuol ar ysgolion yr ardal.

‘Hynod falch’

Wrth groesawu ei gyn-wrthwynebydd i’r Blaid heddiw, dywedodd Dafydd Iwan ei fod yn “hynod falch” o weld Chris Hughes yn ymuno â nhw.

“Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd yn Bontnewydd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hi wedi dod yn amlwg, serch digwyddiadau 2008, ein bod wedi gweithio’n llwyddiannus law yn llaw wrth ymwneud â materion Cyngor Cymuned a chreu gŵyl ‘Hwyl y Bont’,” meddai.

“Mae wedi cael cefnogaeth aelodau Plaid Cymru yn Bontnewydd ac rydym yn edrych ymlaen at ymgyrchu gydag ef yn yr etholiad lleol.”

‘Cyfnod heriol’

Dywedodd Chris Hughes heddiw ei fod yn gobeithio y byddai ei dymor cyntaf yn y Cyngor yn ei roi mewn sefyllfa da i sefyll am dymor arall.

“Gyda phrofiad o bedair blynedd ar Gyngor Gwynedd, a gyda phenderfyniadau ariannol anodd wedi eu gwneud a mwy i ddod, dwi’n credu’n gryf y bydd fy agwedd bwyllog a’m gonestrwydd tuag at wleidyddiaeth leol, yn fodd i mi wrth gynorthwyo i lywio Plaid Cymru, ein prif blaid genedlaethol, yn ei blaen er lles pobl Gwynedd,” meddai.

“’Rydym mewn cyfnod heriol, cyfnod sy’n galw am arweinyddiaeth a gweledigaeth gan fod yn uchelgeisiol er mwyn cyflawni ar ran pobl Gwynedd.

“Dwi’n hapus y gallaf wneud y cyfraniad hwn orau gyda Phlaid Cymru yng Ngwynedd.”