Misrata
Mae’r ymdrechion i ryddhau dau newyddiadurwr sy’n cael eu dal gan grŵp o gyn wrthryfelwyr yn Libya yn parhau.

Cafodd y dyn camera Gareth Montgomery-Johnson sy’n dod o Gaerfyrddin a’r gohebydd Nicholas Davies eu dal gan grŵp Brigâd Misrata dydd Mawrth ond does yna ddim cyhuddiadau yn eu herbyn hyd yn hyn.

Roedd y ddau yn gweithio i wasanaeth Saesneg o Iran, sef Press Tv pan gafodd nhw eu hatal a’u holi gan aelodau’r Brigâd, sy’n honni nad oedd eu papurau mewn trefn a’u bod wedi gwrthod cydweithredu ar y pryd.

Mae’r grŵp Human Rights Watch yn dweud bod cais ganddyn nhw i weld y ddau ddyn wedi cael ei wrthod ond yn ôl Llysgenhadaeth Prydain yn Tripoli mae’r ddau yn iach.

Mae yna densiynnau amlwg rhwng rhai o grwpiau’r gwrthryfelwyr a’r llywodraeth dros dro yn Libya. Mae rhai yn gwrthod derbyn gorchmynion gan y gwleidyddion gan wneud yr hyn mae eu harweinwyr eu hunain yn ei ddweud yn unig.