Mae perchennog newydd cwmni Peacocks, aeth i’r wal fis yn ôl oherwydd dyledion anferthol, yn gobeithio ail-agor hyd at 50 o siopau ac ail gyflogi 60 aelod o staff y pencadlys yng Nghaerdydd gafodd eu gwneud yn ddi-waith gan weinyddwyr y cwmni.

Mewn cyfweliad efo’r Western Mail dywedodd Philip Day, Cadeirydd grwp Edinburgh Woollen Mill (EWM) ei fod yn mawr obeithio y bydd gan y cwmni bresenoldeb llawer uwch ar y Stryd Fawr ymhen 5 mlynedd.

Fe brynodd EWM Peacocks dydd Mercher diwethaf, a’r un pryd caewyd 224 o siopau oedd ddim yn rhan o’r cytundeb, gan wneud 3,000 yn ddi-waith.

Cadarnhaodd Mr Day beth bynnag ei fod yn gobeithio dod i ddealltwriaeth efo landlordiaid y siopau gafodd eu cau er mwyn ail agor hyd at 50 a’u hychwanegu at y 338 brynwyd gan ei gwmni. Mae’r pryniant wedi achub 6,000 o swyddi.

“Dwi’n mawr obeithio y byddwn ni berchen 700 o siopau yn y DU a De Iwerddon ymhen 5 mlynedd, ac y gallwn wedyn chwilio am fusnes newydd rhyngwladol,”meddai.

Cadarnhodd hefyd ei fod yn awyddus i ddatblgu Peacocks ar y we.