George North yn hyfforddi
Mae Cymru yn obeithiol y bydd eu hasgellwr, George North, yn holliach i wynebu Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn nesaf.

Gadawodd y cawr o ogledd Cymru’r cae yn ystod y fuddugoliaeth 27-13 dros yr Alban ddydd Sul.

Roedd wedi dioddef anaf i’w droed ac mae’n derbyn triniaeth ar hyn o bryd ac yn gobeithio hyfforddi’r wythnos yna.

Mae yna obaith hefyd y bydd Huw Bennett a Ryan Jones, sydd wedi dioddef anafiadau i’w coesau, yn ôl erbyn y gêm yn Twickenham ar 25 Chwefror.

Nid oedd Sam Warburton ar gael yn ystod y gêm yn erbyn yr Alban chwaith ar ôl methu prawf ffitrwydd munud olaf.

Dywedodd carfan Cymru na fydd yn cymryd rhan wrth hyfforddi’r wythnos yma er mwyn cael gwella’n llawn.

Bydd Justin Tipuric hefyd yn gallu hyfforddi o ddydd Llun ymlaen, a Matthew Rees yn “gwella’n dda” o anaf i’w goes. Mae’n bosib y bydd yn holliach i wynebu Lloegr.