Shane Williams
Mae’n bosib y bydd Shane Williams yn ymuno â staff hyfforddi’r Gweilch yn fuan.

Mae Stadiwm y Liberty yn chwilio am hyfforddwr i’r olwyr yn dilyn ymadawiad sydyn Sean Holley a Scott Johnson.

Mae Steve Tandy wedi cymryd yr awenau yn brif hyfforddwr.

Mae’r rhanbarth wedi dweud y bydden nhw’n yn hapus i siarad â’r dewin o’r Aman pe bai am fynd ar drywydd hyfforddi rygbi.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithrediadau’r rhanbarth, Andrew Hore, bod Shane Willams eisoes wedi dechrau gwneud ei ran wrth helpu ei ffrind Tandy, yn ogystal ag asgellwyr ifanc y Gweilch, Eli Walker a Hanno Dirksen.

Mae Steve Tandy, cyn-flaen asgellwr Y Gweilch a Chastell Nedd, yn gadael ei swydd ym Mhen-y-Bont ar Ogwr i fynd i’r Gweilch a bydd yn cael ei gynorthwyo gan hyfforddwr y blaenwyr yn y Liberty sef Jonathan Humphreys.

Mae Tandy wedi bod yn gyfrifol am dîm y Gweilch yn ystod rhai o gemau’r Cwpan LV y tymor hwn.

‘‘Yn amlwg, mae yna ddisgwyliadau uchel ar bwy bynnag sydd yn gyfrifol am y Gweilch.  Mae yna ychydig o bwysau arna’i, ond rydw i wedi bod yma ers y cychwyn, felly rwy’n gwybod beth i’w disgwyl,’’ meddai Tandy.

‘‘Bûm yn ddigon ffodus i gynrychioli’r Gweilch am naw tymor ac ennill nifer o gwpanau gyda nhw.  Mae’n mynd i fod yn amser cyffrous i mi.  Yn amlwg mae’n her newydd i mi gael bod yn brif hyfforddwr, ond rwy’n edrych  ymlaen ac yn methu aros i weithio gyda’r garfan ifanc sydd gennym ni.”