Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty ar ôl cael ei drywanu yng ngolau dydd yng Nghasnewydd.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Sgwâr Dunn am 1.20pm heddiw yn dilyn adroddiadau bod grŵp o dri neu bedwar o ddynion wedi  ymosodiad ar ddyn.

Dywed yr heddlu bod y dyn  wedi cael ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, ac mae’r heddlu’n ceisio dod o hyd i’r rhai a ymosododd arno.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y dyn wedi cael ei drywanu yn ei goesau a’i freichiau ond nad oedd ei anafiadau yn peryglu ei fywyd.

Mae Heddlu Gwent yn galw ar aelodau o’r cyhoedd i’w helpu gyda’u ymholiadau ac i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.