Mae badau achub Cymru wedi cael eu blwyddyn brysuraf erioed, yn ôl ffigyrau newydd gan yr RNLI.
Dywedodd yr RNLI bod gwirfoddolwyr wedi gweld cynnydd dramatig o 63% yn nifer y bobl gafodd eu hachub y llynedd, o 38 yn 2010 i 62 yn 2011.
Roedd 600 o wirfoddolwyr wedi treulio 6,877 o oriau yn ymateb i ddigwyddiadau yn 2011.
Mae’r ffigwr wedi bod yn cynyddu’n gyson ers i’r RNLI ddechrau mesur yr amser mae criwiau yn treulio ar y môr yn 2007.
Criw Biwmares yn cadw’n brysur
Biwmares oedd yr orsaf brysuraf yng Nghymru, wedi i’r bad achub gael ei lansio 77 o weithiau gan achub 72 o bobl.
Criw’r Mwmbwls oedd wedi achub y nifer fwyaf o bobl, sef 89.
Mae’r ffigyrau yn deyrnged i ymroddiad gwirfoddolwyr y badau achub, dywedodd Colin Williams, arolygydd rhanbarthol yr RNLI yng Nghymru.
“Mae gwirfoddolwyr RNLI Cymru yng ngorsafoedd badau achub yr elusen wedi treulio 6,877 o oriau yn ymateb i alwadau brys yn 2011 – y mwyaf erioed.
“Mae bron hanner y gorsafoedd yng Nghymru wedi gweld cynnydd yn nifer y lansiadau yn 2011, wrth i fwy o bobl ddefnyddio’r môr ar gyfer ymlacio ac adloniant.”
Mae’r RNLI yn gweithredu 236 o orsafoedd cychod achub yn y DU, gyda 31 o’r rhain yng Nghymru.
Achub criw’r Swanland
Un ffactor bwysig yn y cynnydd oedd yr oriau a gafodd eu treulio wrth chwilio am griw’r llong y ‘Swanland’ pan suddodd 30 milltir oddi ar arfordir Cymru yn mis Tachwedd.
Bu gwirfoddolwyr o Borth Dinllaen, Pwllheli, Bae Trearddur, Abersoch a Chaergybi yn chwilio am y criw mewn gwyntoedd cryfion.