Roedd grŵp o Islamiaid eithafol yn y DU – gan gynnwys tri o Gaerdydd – wedi penderfynu peidio bod yn hunan-fomwyr fel bod ganddyn nhw “ddyfodol hir dymor” i gyflawni troseddau terfysgol, clywodd llys heddiw.

O fewn wythnosau o gwrdd â’i gilydd, roedd yr eithafwyr wedi cynllwynio i fomio’r Gyfnewidfa Stoc yn Llundain ac wedi trefnu bod Prydeinwyr yn cael hyfforddiant terfysgol ym Mhacistan, clywodd Llys y Goron Woolwich yn Llundain.

Roedd gan y grŵp  sawl copi o gylchgrawn sydd wedi ei ysbrydoli gan al Qaida o’r enw Inspire, yn eu meddiant – roedd un rhifyn o’r cylchgrawn yn cynnwys erthygl gyda chyfarwyddiadau ar sut i wneud bom yn eich cegin.

Roedd y naw dyn – Gurukanth Desai, 30, Abdul Miah, 25, a Omar Latif, 28, o Gaerdydd; Mohammed Chowdhury, 21, a Shah Rahman, 28, o Lundain; a Usman Khan, 20, Mohammed Shahjahan 27, Nazam Hussain, 26, a Mohibur Rahman, 27, i gyd o Stoke-on-Trent – wedi pledio’n euog i sawl cyhuddiad yn ymwneud â therfysgaeth wythnos diwetha.

Roedd y dynion wedi ffurfio’r grŵp mewn cyfarfod yn y Rhath, Caerdydd ar 7 Tachwedd 2010 ac wedi dechrau cynllwynio i fomio sawl safle pan gawson nhw eu harestio ar 20 Rhagfyr.

Cafodd y gwrandawiad i benderfynu ar ddedfrydau’r naw ei ohirio tan yfory.