Patricia Ann Eva
Dywed yr heddlu eu bod yn bryderus iawn am ddiogelwch gwraig 71 oed sydd wedi mynd ar goll o’i chartref yn Llandefalle ger Aberhonddu.

Cafodd Patricia Ann Evans ei gweld am y tro diwethaf yn gadael ei chartref i fynd â’i chi am dro tua 3pm ar ddydd Sul, 5 Chwefror.

Mae Patricia Evans yn cael ei hadnabod yn lleol fel “Trish”. Mae hi’n dioddef o dementia, yn wan ei golwg ac â nifer o broblemau iechyd eraill.

Mae hi’n 5’8’ o daldra, gyda gwallt gwyn byr a llygaid brown. Roedd hi’n gwisgo siwmper felyn, siaced binc a jîns.

Roedd ei chi terrier gwyn Barney gyda hi pan aeth ar goll. Mae hi’n cerdded gyda’i chi yn rheolaidd ond fel arfer yn aros o fewn tua 10 munud neu rhyw filltir o’i chartref.

Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un sydd wedi ei gweld ers pnawn dydd Sul i gysylltu â nhw ar unwaith ar 101.