Ymatebodd y gwasanaethau brys i ddau wrthdrawiad wrth i’r oerfel ac eira greu amodau gyrru peryglus ar ffyrdd Cymru ddydd Sadwrn.

Achubwyd dau berson o lori graeanu oedd wedi dymchwel yn Nhrefynwy toc cyn 4pm brynhawn ddoe. Doedden nhw ddim wedi eu hanafu.

Yn ddiweddarach aethpwyd a dau oedolyn ac un plentyn i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad car ar yr A470 rhwng Glan-bad a Glyntaff, ger Pontypridd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad toc cyn 5pm. Bu’n rhaid torri’r teithwyr yn rhydd o’r car. Aethpwyd â nhw i Ysbyty Brenhinol Morgannwg.