Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybydd melyn o dywydd garw ar gyfer y 24 awr nesaf.

Rhybydd melyn yw’r lefel isaf ymhlith lefelau’r Swyddfa wrth iddyn nhw asesu effaith y tywydd yn gyffredinol.

Bydd glaw sy’n ymledu o’r gorllewin yn troi yn eira yn arbennig ar dir uchel gan achosi trafferthion posib.

Gall yr eira syrthio ar dir isel hefyd ac mae’r proffwydi tywydd yn annog y cyhoedd i fod yn ofalus wrth deithio yn enwedig bore yfory wrth fynd i’r gwaith.