Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau prynhawn ma eu bod nhw’n ymchwilio i achos llofruddiaeth ar ôl i gorff dynes 67 oed gael ei ddarganfod yn mewn ty yn ardal Llanllwni ger Llanybydder yn Sir Gaerfyrddin neithiwr.

Dywed yr heddlu bod unigolion yn cael eu cadw yn y ddalfa ac yn eu helpu gyda’u ymholiadau.

Mae’r heddlu’n ceisio cysylltu â theulu’r ddynes er mwyn adnabod y corff yn swyddogol.



Cafodd y ddynes ei darganfod yn farw yn ei thy ar Ystad Bryndulais, Llanllwni.

Mae’r ystad  yn cynnwys rhyw 12 o dai, rhai’n berchen i’r trigolion lleol, a rhai’n berchen i gyngor Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl trigolion lleol, roedd y ddynes wedi bod yn byw ar ei phen ei hun erbyn hyn, ond ei bod wedi ymgartrefu yn yr ardal ers blynyddoedd lawer a magu plant yno, er nad oedd hi’n dod o’r ardal yn wreiddiol.

Mae presenoldeb yr heddlu yn amlwg ar y stad gyda phabell fforensig tu allan i dy’r ddynes a ditectifs yn holi o ddrws i ddrws.