Mae’r Heddlu’n ymchwilio wedi i ddynes 67 oed gael ei darganfod yn farw ar ystad o dai yn Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, y bore ’ma.

Cafodd y ddynes ei darganfod yn farw ar ystad fach Bryndulais, Llanllwni, ger Llanybydder.



Cadarnhaodd llefarydd ar ran yr heddlu wrth Golwg 360 fod “Heddlu Dyfed Powys ar hyn o bryd yn ymchwilio i farwolaeth dynes 67 yn Ystad Bryndulais yn ardal Llanllwni.”

Mae’r ystad fach yn cynnwys rhyw 30 o dai, rhai’n berchen i’r trigolion lleol, a rhai’n berchen i gyngor Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl trigolion lleol, roedd y ddynes wedi bod yn byw ar ei phen ei hun erbyn hyn, ond ei bod wedi ymgartrefu yn yr ardal ers blynyddoedd lawer a magu plant yno, er nad oedd hi’n dod o’r ardal yn wreiddiol.

Yn ôl adroddiadau lleol, mae presenoldeb yr heddlu i’w weld ar yr ystad ar hyn o bryd, a phabell yr heddlu wedi ei godi o flaen y byngalo.