Edwina Hart
Mae angen chwalu’r rhwystrau i fusnesau bach, ac annog mwy o bobol i fentro i’r byd busnes ar draws Cymru, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad gan y grwp gorchwyl a benodwyd gan Weinidog Busnes Cymru yn dweud bod angen trawsnewid y cyfleon i bobol ddechrau a chynnal busnesau yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi micro-fusnesau yng Nghymru trwy gyflwyno canolfannau ar draws y wlad fydd yn cynnig yr holl wybodaeth sydd ei angen arnyn nhw dan un to, a chreu cynlluniau mentora a chefnogaeth i fusnesau newydd.

Mae’n nhw hefyd yn dweud bod angen torri lawr ar yr holl reolau caeth sydd yn llethu micro-fusnesau, sef cwmniau sy’n cyflogi hyd at naw person.

Cafodd Adroddiad Micro-Fusnes Cymru ei baratoi gan grŵp gorchwyl a gorffen, a benodwyd gan y Gweinidog Busnes Edwina Hart, i roi arweiniad iddi wrth sefydlu strategaeth ar gyfer miro-fusnesau Cymru.

Wrth lansio’r adroddiad heddiw, dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru, Robert Lloyd Griffiths, a fu’n cadeirio’r grŵp, fod datblygu micro-fusensau Cymru yn ran “hanfodol, deinamig a chanolog o lwyddiant economi Cymru, ac sydd â’r potensial i yrru adferiad economaidd Cymru.”

Micro-fusnesau yw prif fodel busnes Cymru ar hyn o bryd, gyda 94.5% o holl fusnesau Cymru  yn 2011 yn disgyn i’r categori ac yn cyflogi hyd at 9 o bobol.

Yn ôl Robert Lloyd Griffiths, micro-fusnesau yw’r math o fusnesau sydd angen eu meithrin a’u cefnogi, gan fod yng Nghymru y “potensial i gynnal, gwella a chynyddu’r cyfraniad y maen nhw’n gallu eu gwneud i’w cymunedau, yr economi, a bywyd y genedl.”

Pump blaenoriaeth

Mae’r adroddiad yn blaenoriaethu pump maes ar gyfer ei ddatblygu yng Nghymru, sef codi ymwybyddiaeth o gefnogaeth i fusnesau, sicrhau bod cyllid ar gael i fusensau, rhoi cynlluniau mentora ar waith, symleiddio prosesau prynnu y sector cyhoeddus, a symlhau rheolau iechyd a diogelwch a recriwtio staff.

Mae’r adroddiad yn dweud bod angen rhyddhau rhwng £1,000 a £20,000 o fuddsoddiad i bob micro-fusnes, a symleiddio’r broses o gael gafael ar yr arian.

Er mwyn ysgafnhau rheolau beichus iechyd a diogelwch a chyflogaeth, mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i newid eu deddfau mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, a lobïo am newid yn San Steffan mewn meysydd eraill.

Mae awduron yr adroddiad yn dweud bod y newidadau yma yn flaenoriaeth os yw Llywodraeth Cymru eisiau cefnogi mentrau newydd ar draws y wlad.

Mae Gweinidog Busnes Cymru, Edwina Hart, wedi dweud y bydd hi nawr yn “ystyried yr argymhellion.”