Mae miloedd o swyddi yn y fantol bore ma ar ôl i gwmni dillad Peacocks a Bonmarche, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd,  gyhoeddi brynhawn ddoe eu bod yn bwriadu penodi gweinyddwyr ar ôl i drafodaethau gyda’u benthycwyr fethu.

Dywed y cwmni, sy’n cyflogi 11,000 o bobl, eu bod nhw gwneud y penderfyniad er mwyn ceisio diogelu’r busnes.

Fe fydd y grŵp yn ceisio dod o hyd i brynwr ar gyfer y busnes Bonmarche, sydd â 394 o siopau ond fe fydd yn penodi gweinyddwr yn y cyfamser.

Dywed grŵp Peacocks eu bod nhw wedi bod yn ystyried dyfodol Bonmarche o fewn y grŵp ac wedi penderfynu gwerthu’r busnes. Mae nhw mewn trafodaethau gyda phrynwr posib ar hyn o bryd.

Roedd y grŵp wedi methu â dod i gytundeb gyda’r banciau sy’n cynnwys RBS a Barclays.

Dywedodd RBS a Barclays eu bod nhw wedi bod yn “gefnogol” yn ystod y trafodaethau.

Roedd gwerthiant y cwmni wedi cynyddu 17% dros gyfnod y Nadolig.

Past Times

Yn y cyfamser mae cwmni Past Times wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr – fe gyhoeddodd y cwmni bod 507 o staff eisoes wedi colli eu swyddi, a bydd 67 o weithwyr eraill hefyd yn cael eu diswyddo yn sgil penodi gweinyddwr.