Clywodd cwest heddiw bod gwraig weddw wedi marw ar ôl i lawfeddyg geisio tynnu ei hafu yn hytrach na’i haren yn ystod llawdriniaeth.

Bu farw Amy Francis, 77 oed, o St Julians, yng Nghasnewydd ar ôl gwaedu’n fewnol a chael trawiad ar y gallon, er gwaetha ymdrechion i’w hachub.

Bu’r ymgynghorydd Dr Adam Carter yn ceisio disgrifio heddiw sut y digwyddodd y camgymeriad.

Roedd teulu Amy Francis yn y cwest yng Nghasnewydd heddiw ac mae nhw wedi canmol Dr Adam Carter am ei onestrwydd.

Roedd y bensiynwraig yn cael llawdiniaeth ar gyfer cansr yn ei haren dde yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd ar 21 Gorffennaf, 2010.

Yn ystod y llawdriniaeth roedd Dr Carter wedi gofyn i feddyg dan hyfforddiant, oedd erioed wedi gwneud y math yma o lawdriniaeth o’r blaen, i dynnu’r aren. Ond ar ôl iddi fethu a gwneud, fe wnaeth Dr Carter barhau i dynnu’r aren.

Dywedodd Dr Carter ei bod yn bosib bod y meddyg dan hyfforddiant wedi achosi niwed i’r afu yn ystod y broses o geisio tynnu’r aren. Pan roddodd ei law i mewn i dynnu’r aren, roedd wedi gafael yn yr iau drwy gamgymeriad a’i dynnu, meddai.

Roedd yr anasthetydd wedi deud wrtho’n syth bod pwysau gwaed Amy Francis yn gostwng a dyna pryd y sylweddolodd Dr Carter ei fod wedi gwneud camgymeriad.

Methiant fu’r ymdrechion i geisio achub Amy Francis.

Fe gofnodwyd rheithfarn naratif gan y crwner David Bowen.